Mae marwolaethau o ganlyniad i gymryd cyffuriau ar eu lefel uchaf erioed yng Nghymru.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod nifer y bobol sy’n marw o wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78% mewn dim ond 10 mlynedd, tra bu cynnydd hefyd yn nifer y bobol iau sy’n marw o ganlyniad i gymrd sylweddau fel cocên ac MDMA.
Mae adroddiad yr asiantaeth iechyd yn gwneud nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r cynnydd, gan gynnwys amddiffyn defnyddwyr cyffuriau rhag cael eu herlyn wrth geisio sylw meddygol, ac ailddosbarthu eilydd heroin Take-Home Naloxone fel meddyginiaeth dros y cownter.
Cynyddodd marwolaethau camddefnyddio cyffuriau, is-set o farwolaethau gwenwyno cyffuriau 12% o 185 o farwolaethau yn 2017 i 208 yn 2018, gyda Chymru â’r cyfraddau ail uchaf o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau yn rhanbarthau Cymru a Lloegr.
Roedd marwolaethau fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o gymharu â’r rhai lleiaf difreintiedig.
Nododd yr adroddiad fod cynnydd mewn marwolaethau yn ymwneud â chocên, amffetamin ac MDMA yn tueddu i gynnwys pobol yn eu 20au.