Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai’r awdur plant o Sir Benfro, Eloise Williams, yw’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed.
Nod y swydd newydd hon, sy’n cyfateb i Fardd Plant Cymru yn y Gymraeg, yw dod i gysylltiad ac ysbrydoli plant Cymru drwy gyfrwng llenyddiaeth, yn ogystal â’u hannog i ysgrifennu.
Bu Eloise Williams yn gweithio fel actores ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn symud i fyd llyfrau plant.
Enillodd ei nofel, Gaslight, wobr Llyfr Pobol Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, yn ogystal a chyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2018. Roedd nofel arall ganddi, Seaglass, hefyd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2018, a’r North East Book Awards 2019.
‘Cyfnod cyffrous’
Yn rhinwedd ei rôl newydd, bydd Eloise Williams yn gweithio ochr yn ochr â’r Bardd Plant, Gruffudd Owen, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan weithio’n bennaf gyda phlant rhwng 5 a 13 oed.
“Mae llenyddiaeth plant yn ffynnu ac ni allai fod yn amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’i dwf yma yng Nghymru,” meddai Eloise Williams.
“Dw i’n teimlo’n gryf bod cysylltiad rhwng llyfrau plant a’r gobaith dw i’n ei deimlo bob tro dw i’n cerdded i mewn i ystafell ddosbarth.
“Dw i’n grediniol y bydd darllenwyr ifanc yn gwneud ein dyfodol yn ddisglair ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny.”