Mae Prifysgol Bangor yn bwriadu datblygu gwasanaeth iechyd meddwl a fydd yn cael ei gynnig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ledled Cymru.
Mae’r brifysgol wedi derbyn arian gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch er mwyn datblygu portffolio o ddarpariaeth a fydd yn cael ei lansio yn y deng mis nesaf.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar greu adnoddau iechyd meddwl ar-lein, yn ogystal â chynnig hyfforddiant sgiliau therapi i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ledled Cymru.
Maen nhw hefyd yn gobeithio ffurfio rhwydwaith o ymarferwyr a therapyddion iechyd meddwl Cymraeg er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth yn y “tymor hir”.
Yn ôl Maria Lorenzini, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, y nod yw “gwella hygyrchedd cefnogaeth iechyd meddwl priodol i bob myfyriwr Cymraeg iaith gyntaf yng Nghymru.”
“Newyddion gwych”
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wedi croesawu’r cyhoeddiad, ac yn ei ddisgrifio’n “gam pwysig ymlaen”.
“Mae UMCB ac Undeb Bangor wedi bod yn lobio’n genedlaethol am adnoddau iechyd meddwl digonol yn yr iaith Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Lleucu Myrddin, Llywydd UMCB.
“Mae’n amlwg bod gwasanaethau digidol, sy’n hynod bwysig i genedlaethau iau, wedi bod ar ei hôl hi trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n gadarnhaol iawn mai rhan o’r prosiect hwn fydd creu adnoddau ar-lein yn Gymraeg.
“Mae’n fater o egwyddor na ddylai unrhyw siaradwyr Cymraeg orfod gwneud heb wasanaethau dim ond oherwydd mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf.
“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ac rydym yn falch iawn o weithio gyda’r brifysgol ar y prosiect hwn.”