Mae miloedd o bobol yn cymryd rhan yn ras triathlon Ironman Cymru yn nhref Dinbych-y-Pysgod heddiw.

Fe fydd disgwyl i’r cystadleuwyr nofio, rhedeg a seiclo trwy’r dref a’r cyffiniau.

Bydd y ras yn dechrau ar draeth y gogledd, lle bydd y cystadleuwyr yn nofio yn y môr.

O’r fan honno, byddan nhw’n rhedeg neu’n cerdded 1,000m cyn mynd ar eu beic trwy Barc Gwledig Arfordir Penfro, ac yn gorffen gyda marathon drwy’r dref.