Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn wfftio’r awgrym fod y dyfalu ynghylch ei ddyfodol yn cael effaith negyddol ar y tîm.
Daeth rhediad di-guro’r Alltudion o 17 gêm i ben gyda cholled o 2-0 yn erbyn Northampton ddoe (dydd Sadwrn, Medi 14).
Sgoriodd Andy Williams yn yr hanner cyntaf cyn i Sam Hoskins ddyblu mantais y Cobblers yn ystod yr ail hanner, tra bod Jamille Matt wedi gweld ail gerdyn melyn cyn cael ei anfon o’r cae.
Ac mae’r rheolwr yn mynnu y bydd e wrth y llyw ar gyfer y daith i Macclesfield nos Fawrth, er ei fod e’n cael ei gysylltu â swydd rheolwr Lincoln.
“Dydyn nhw ddim yn gwybod am beth maen nhw’n siarad,” meddai’r rheolwr wrth ymateb i’r bobol sy’n honni bod yr ansicrwydd yn cael effaith negyddol ar ei dîm.
“Dw i yma i siarad am y gêm yn unig, ac i fod yn barchus i fy chwaraewyr oherwydd maen nhw’n haeddu hynny.
“Bydda i wrth y llyw nos Fawrth.”