Warren Gatland
Mae Rheolwr tim rygbi Cymru yn dweud ei fod yn tu hwnt o siomedig o golli’r gêm gynderfynol yn erbyn Ffrainc yn Seland

Newydd y bore yma.

Collodd Cymru o 8 i 9 ar ôl i’r capten Sam Warburton gael ei anfon o’r cae am dacl peryglus. Mae wedi dweud ers hynny nad oedd “unrhyw fwriad maleisus” yn yr hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Warren Gatland, Rheolwr Cymru ei fod yn’hynod siomedig’ bod penderfyniad y dyfarnwr Allain Rolland wedi ei ‘adael i lawr’. Bellach mae yna gryn dipyn o feirniadu ar y dyfarnwr am yr hyn ddigwyddodd.

Francois Pienaar oedd capten tîm De Affrica ennillodd Gwpan y Byd yn 1995 ac mae yn bendant bod y penderfyniad yn gwbl anghywir.

“Roedd yn dacl beryglus. Roedd yn haeddu cosb. Ond ar y gorau roedd yn haeddu cerdyn melyn a byth gerdyn coch. Fe laddodd y gêm. Mewn gêm gynderfynol yng Nghwpan y Byd, a’r byd i gyd yn gwylio, mae gennych yr holl dechnoleg at eich galw felly pam ddim gwneud y penderfyniad efo’r dyfarnwr fideo?”

Dywedodd cyn hyfforddwr amddiffyn Cymru Clive Griffiths mai “dyma y penderfyniad gwaethaf i mi ei weld yn ystod fy ngyrfa.”

Ar y llaw arall dywedodd cyn chwaraewr Lloegr Matt Dawson wrth y BBC nad oedd gan y dyfarnwr ddewis ond dangos cerdyn coch i Warburton a’i fod trwy wneud hynny wedi cadw at lythyren y ddeddf. “ Yn anffodus,” ychwanegodd “dyma fu’r catalyst i’r Ffrancwyr fwrw ati ag ennill”.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y gall pawb fod yn hynod falch o lwyddiant tîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd.

“Rwy’n gwybod y byddan nhw’n teimlo’r boen o golli yn y rownd gynderfynol yn fwy na ni’r cefnogwyr hyd yn oed, ond maen nhw wedi codi ysbryd y wlad yn fwy nag erioed gyda’u perfformiadau, yn enwedig y perfformiad dewr heddiw, pan chwaraeon nhw gyda 14 o ddynion am awr ac fe ddaethon nhw mor agos er hynny” meddai Carwyn Jones.

“Rydyn ni’n eu cefnogi 100% o hyd ac yn bloeddio wrth iddynt geisio efelychu chwaraewyr 1987 a dod yn drydydd yng Nghwpan y Byd ddydd Gwener.”