Cwpan Rygbi'r Byd
Ffrainc fydd yn wynebu un ai Awstralia neu Seland Newydd yn gêm olaf cystadleuaeth Cwpan y Byd ar ôl curo Cymru o 9 pwynt i 8 yn Auckland y bore yma.

Fe chwaraeodd Cymru’n dda ond bu’n rhaid iddyn nhw chwarae efo 14 o ddynion ar ôl i’r capten Sam Warburton gael ei anfon o’r maes wedi tacl beryglus ar y Ffrancwr Vincent Clerc ar ôl 18 munud o’r gêm.

Mae penderfyniad y dyfarnwr Alain Rolland i ddangos y cerdyn coch i Warburton eisoes wedi achosi cryn ddadlau.

Golyga hyn y gall Warburton golli’r gêm nesaf i ganfod pwy fydd yn drydydd a phedwerydd yn yr ornest.

Daeth dros 60,000 o gefnogwyr i Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd i wylio’r gêm ac roedd miloedd eraill yn gwylio mewn clybiau a thafarndai led led Cymru ac ar sgrinau mawr yng nghanol Abertawe