Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod rhaid paratoi i uchelgyhuddo Boris Johnson os yw’n torri’r gyfraith tros Brexit.

Mae adroddiadau y gallai prif weinidog Prydain lanio yn y Goruchaf Lys pe bai’n ceisio anwybyddu deddfwriaeth sydd ar y gweill i geisio atal Brexit heb gytundeb.

Mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod y dyddiad terfynol ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ymestyn i fis Ionawr 2020.

Mae disgwyl iddi gael sêl bendith y Frenhines yr wythnos hon, ond mae Boris Johnson yn bygwth anwybyddu’r amodau gan wthio am gadw’r opsiwn o adael heb gytundeb ar agor cyn uwchgynhadledd Cyngor Ewrop ar Hydref 17.

Mae Boris Johnson yn dweud y byddai’n well ganddo fod yn “farw mewn ffos” na gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad y tu hwnt i Hydref 31.

‘Tarw tryfal trwy’r cyfansoddiad’

Mae Liz Saville Roberts yn tynnu sylw at sylwadau Boris Johnson yn 2004 pan oedd e o blaid uchelgyhuddo Tony Blair, y prif weinidog ar y pryd, tros ryfel Irac.

Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wnaeth y gwaith paratoi wrth lunio dogfen ar droseddau rhyfel yn ymwneud ag Irac.

“Mae Boris Johnson eisoes wedi gyrru tarw tryfal drwy’r cyfansoddiad, felly dydi syniadau megis uchelgyhuddo ddim bellach yn gwbl anghyffredin,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mi ddyweda i wrth arweinwyr y gwrthbleidiau eraill fod angen i ni fod yn barod i uchelgyhuddo Boris Johnson os ydi o’n torri’r gyfraith.”