Efallai y bydd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ar drip yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ar ddiwrnod rali annibyniaeth (dydd Sadwrn, Medi 7), ,ond maen nhw’n gwybod yn iawn beth yw gorymdeithio.
Mae’r teimladau o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn “gryf” yn yr ysgol, meddai llefarydd ar golwg360 – ac fe fu rhai o’r plant ar y rali gynhadliwyd yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf.
“Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn deall beth sy’n mynd ymlaen a pham ei fod yn digwydd,” meddai.
“Mae gyda ni rai aelodau o Flwyddyn 6 sydd wedi bod yn y ralïau eraill (Caernarfon a Chaerdydd) a chwpwl o ddisgyblion Blwyddyn 4 sydd wedi bod gyda phlant hynach.”
“Mae gyda ni hefyd riant sydd wedi bod yn dod i mewn i’r ysgol i drafod annibyniaeth gyda’r plant.”