Doedd y dafarn ar brif sgwâr Merthyr Tudful – sydd wedi’i henwi ar ôl Dic Penderyn – ddim yn gwybod y byddai rali annibyniaeth yn dod i’r dref tan ddoe (dydd Mercher, Medi 4).
Mae disgwyl i orymdeithwyr a’u baneri a’u hofferynnau deithio i Ferthyr o bob cwr i Gymru, ar gyfer y drydedd rali eleni gan YES Cymru a AUOB (Pawb o Dan yr Un Faner).
Ac er bod plac ar y wal y tu mewn i Y Dic Penderyn ar y Stryd Fawr – dafliad carreg o lle bydd y dyrfa ddydd Sadwrn yn ymgynnull i wrando ar areithiau a negeseuon dros annibyniaeth – doedd y dafarn ei hun yn deall dim am y bobol ychwanegol fydd yn ymweld â’r dref.
Rhwng gêm bêl-droed Cymru nos Wener (Medi 6) a gêm rygbi Cymru ddydd Sadwrn (Medi 7), fe fydd tipyn o giwiau eisoes wrth y bar.
“R’yn ni’n disgwyl penwythnos prysur, ond d’yn ni ddim wedi archebu mwy o gwrw, a does dim bwriad rhoi prydau arbennig ar y bwrdd sbeshals,” meddai llefarydd ar ran Wetherspoon, sydd piau’r Dic Penderyn.
“Ond fe fydd gyda ni fwy o staff diogelwch ar y drysau.”