Mae menter gymunedol yn ardal Machynlleth wedi cyhoeddi nad ydyn nhw bellach yn un o bartneriaid cynllun ail-wylltio enfawr ar gyfer y canolbarth.

Mae Ecodyfi wedi penderfynu peidio â chefnogi’r cynllun ‘O’r Mynydd i’r Môr’ gwerth £3.4m ar ôl iddo ddod o dan y lach yn lleol.

Bwriad ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yw defnyddio hyd at 10,000 hectar o ucheldir a bron i 30,000 hectar o fôr mewn rhannau o ogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys er mwyn cefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt.

Yn bennaf gyfrifol am y cynllun mae’r elusen Rewilding Britain, ac ymhlith ei arweinwyr eraill mae Coed Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Forol.

Ond er bod y cynllun yn un gwirfoddol, mae rhai o ffermwyr a thrigolion y canolbarth wedi galw am ei ddiddymu, gan gyhuddo cadwraethwyr o “ddweud celwydd” wrthyn nhw.

Pryder Ecodyfi

“Mae Bwrdd Rheolwyr Ecodyfi wedi penderfynu tynnu’n ôl o’r cynllun,” meddai rheolwr Ecodyfi, Andy Rowland, wrth bapur newydd wythnosol Powys, y County Times.

“Rydyn ni’n gynyddol bryderus o’r newid agwedd tuag at y cynllun o fewn y gymuned wledig yr ydyn ni’n ddibynnol iawn arni.

“Mae’r cynllun yn adlewyrchu ffocws y partneriaid ar yr amgylchedd, ac yn rhoi cryn dipyn yn llai o sylw i’r elfennau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd o ddatblygu cynaliadwy, sy’n hanfodol ar gyfer y gymuned gyfan.

“Teimlwn ar hyn o bryd y gall Ecodyfi fod o fwy o gymorth yn creu dyfodol mwy cadarn a chynaliadwy drwy fod y tu allan i’r cynllun, yn hytrach nag aros yn rhan ohono.”

‘Gwrando mwy ar bryderon’

Mae arweinwyr O’r Mynydd i’r Môr eisoes wedi pwysleisio nad oes gorfodaeth ar ffermwyr na thirfeddianwyr i fod yn rhan ohono, ond maen nhw am wrando mwy ar bryderon yn lleol, medden nhw.

“Rydym yn parchu penderfyniad Ecodyfi i dynnu’n ôl, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y mewnbwn gwerthfawr y maen nhw wedi ei roi hyd yma,” meddai llefarydd ar ran y cynllun.

“Rydym wedi ystyried y pryder a’r consyrn a fynegwyd inni’n ddiweddar am y prosiect ‘O’r Mynydd i’r Môr’. Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, rydym am newid y ffordd rydym yn rhedeg y prosiect.

“Bydd hyn yn cymryd peth amser i’w drefnu, am fod yna nifer o sefydliadau gwahanol yn rhan o’r bartneriaeth, ac mae llawer o waith i’w wneud.

“Ond nawr bod pobol yn dychwelyd o wyliau’r haf, bydd hyn yn flaenoriaeth.”