Mi allai loriau ym mhorthladd Caergybi wynebu “oriau” o oedi yn sgil Brexit heb gytundeb, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Daw’r sylw yn dilyn adroddiadau y gallai loriau yn ne ddwyrain Lloegr wynebu diwrnodau o oedi yn dilyn ymadawiad heb gytundeb.
“Rydym wedi gweithio’n galed iawn gydag awdurdod y porthladd, awdurdod lleol, ac eraill,” meddai Mark Drakeford. “Ac rydym wedi sicrhau cyfleusterau ychwanegol ar yr ynys os bydd eu hangen – os bydd yna ohiriadau.
“Mae ein gwybodaeth a rhagdybiaeth cynllunio ddiweddaraf yn awgrymu y bydd yna ohirio ym mhorthladd Caergybi. Ond mae’r rhain yn debygol o bara am oriau yn hytrach na diwrnodau.
“Ac mae gennym gyfleusterau mewn lle i fedru ymdopi â’r gohiriadau rydym yn eu rhagweld.”
Caergybi, yn Ynys Môn, yw’r ail borthladd mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer nwyddau mewn lorïau, ac mae dwy filiwn o bobol yn croesi o’r porthladd pob blwyddyn.