Yn Japan, mae trên yn llawn pobol wedi bod mewn gwrthdrawiad â lori yn cludo ffrwythau sitrws, ac mae 30 o bobol wedi cael eu hanafu.

Yn ôl yr heddlu, mae’n bosib fod y ddamwain wedi’i hachosi gan i’r lori fynd ar draws croesfan yn Yokohama, de Tokyo.

Mae brigad dân Yokomohama wedi cadarnhau fod 30 o bobol wedi eu hanafu ac wedi derbyn triniaeth gan y gwasanaethau brys.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.