Mae ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gymru yn gobeithio “plannu hadau gobaith” yn ystod rali fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Medi 7).
Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru) yw enw’r grwp sydd y tu ôl i’r rali ym Merthyr Tudful, ond mae mudiad annibyniaeth YesCymru hefyd wedi bod ynghlwm â’r trefnu.
“Roedd wastad yn fwriad gyda ni i fynd i Ferthyr – y dref fwyaf yn y Cymoedd,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd y mudiad. wrth golwg360. “Efallai un o’r ychydig rhai sydd yn gallu dal cymaint o bobol.
“Mae’n ardal Gymreigaidd iawn, ac maen nhw’n falch iawn o’u Cymreictod. Mae rhyw faint o dwf wedi bod o ran addysg Gymraeg.
“Yn fwy na dim rydyn ni eisie mynd i mewn a phlannu hadau gobaith annibyniaeth i Gymru, yn hytrach na hadau atgasedd cenedlaetholdeb Prydeinig.”
Denu’r di-Gymraeg
Er yn hanesyddol mae cenedlaetholdeb Cymreig wedi cael ei chysylltu yn bennaf â diwylliant Cymraeg, mae Siôn Jobbins yn teimlo bod apêl y mudiad bellach yn ehangu.
Mae’n dweud bod y mudiad yn “dda iawn o ran denu pobol o wahanol gefndiroedd” a bod pobol erbyn hyn yn llai parod i “dynnu mas y llinyn mesur i fesur Cymreictod” ei gilydd.
“Dw i’n cael yr argraff bod cefnogaeth i annibyniaeth ddim yn cael ei gysylltu cymaint ag iaith,” meddai wedyn. “Mae’n cael ei weld fel rhywbeth lot mwy syml.
“Wrth gwrs mae elfen o hunaniaeth ynghlwm â’r peth,,. ond mae pobol yn dechrau ei weld fel dewis cyfansoddiadol. Ydyn ni eisiau cael ein rheoli gan San Steffan?… dyw’r cwestiwn, ‘Ydi hwn yn Gymro?’ ddim hanner mor gryf ag y mae pobol wedi honni ei fod e.”