Bu farw gyrrwr lori, wedi i’w gerbyd syrthio oddi ar ymyl traffordd yr M4 ger yr ail bont sy’n croesi afon Hafren.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau i’r lori fynd oddi ar y ffordd ac i lawr llethr yn Sir Fynwy fore heddiw (dydd Mercher, Awst 4).

Fe gafodd y lonydd i’r ddau gyfeiriad eu cau yn syth wedi’r digwyddiad, ac fe fu felly am oriau.

Er i’r gyrrwr gael ei gludno mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, fe fu farw yno.