Fe gododd pobol Merthyr mewn gwrthryfel yn 1831
Roedden nhw’n protestio fod pris bara yn rhy ddrud, a chyflogau’n rhy isel
Roedd Deddf Ddiwygio newydd gael ei gwrthod a fyddai wedi rhwystro cyflogwyr rhag gallu torri cyflogau
Fe fatsiodd dynion a merched trwy strydoedd Merthyr Tudful gan dorri i mewn i siopau, dinistrio llyfrau cyfrifon a oedd yn rhestru dyledion
Troi’r driesgar
Ar ddydd Gwener, Mehefin 3, 1831, fe gafodd glöwyr lleol eu perswadio i ymuno â’r gwrthryfel
Yr un pryd, fe anfonwyd yr Uwch Gapten Falls a 68 o filwyr i Ferthyr er mwyn adfer cyfraith a threfn
Fe gawson nhw eu comisiynu i warchod y Castle Inn, lle’r oedd ynadon y dref yn cyfarfod
Ond fe glywodd y dorf am y cyfarfod, ac fe aethon nhw draw i’r Castle Inn i herio William Crawshay ac un arall o gyflogwyr cefnog yr ardal
Fe gafodd rhestr o ddymuniadau’r protestwyr ei gwrthod, ac fe ddechreuodd y milwyr danio i ganol y dorf
Y diwedd
Erbyn dydd Mawrth, Mehefin 7, 1831, roedd y fyddin yn gallu hawlio ei bod wedi adennill rheolaeth o Ferthyr Tudful
Fe fu’n rhaid i 26 o bobol fynd o flaen eu gwell mewn achos llys
Dyna pryd y cafodd Lewis Lewis a Richard Lewis (Dic Penderyn) ill dau eu dedfrydu i farwolaeth
Fe gafodd dedfryd Lewis Lewis ei wrthdroi, ond fe grogwyd Dic Penderyng yng ngharchar Caerdydd ar Awsr 13, 1831