Mae ymgyrchydd iaith ar stad dai fawr ar gyrion Merthyr Tudful yn dweud fod annibyniaeth yn bwysig i rai o’r trigolion – ond dyw hynny ddim yn golygu eu bod yn deall yn llwyr be’ fyddai’n ei olygu o ran bywyd bob dydd.
Ac er bod trefnwyr yn disgwyl i “filoedd” o bobol o bob cwr o Gymru yn y dref ddydd Sadwrn (Medi 7), dydi’r mwyafrif o bobol stad ddim yn ymwybodol fod yr orymdaith tros annibyniaeth yn digwydd, meddai Lee Davies.
Mae Lee Davies yn un o ddau gynghorydd sir dros y ward sydd wedi’i darlunio fel stad dlawd a thymhestlog ers ei hadeiladu yn y 1950au. Ond, er nad yw’n medru siarad Cymraeg, mae’n danbaid dros yr iaith, am gael mwy o bobol yr ardal i’w chofleidio a’i dysgu.
“Rwy’n teimlo’n gryf iawn tros yr iaith Gymraeg,” meddai wrth golwg360. “Rwy’ i am weld mwy o bobol yn siarad yr iaith, a’n gweld ni fel gwlad yn cyrraedd y miliwn o siaradwyr
“R’yn ni mewn trafodaethau gyda phobol yn ardal Caernarfon ar hyn o bryd, yn siarad am ddechrau cyrsiau dysgu Cymraeg a chael yr iaith i mewn i ysgolion cynradd ac uwchradd y Gurnos.”