Bydd y gwaith o ddymchwel un o adeiladau mwyaf trawiadol Ardudwy, yn dechrau yr wythnos nesaf.
Mae Gwesty Dewi Sant, Harlech, wedi sefyll yn segur ers rhai blynyddoedd bellach a’r wythnos nesaf bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n dechrau ar y gwaith yn dilyn achos gorfodaeth maith.
Dywed yr awdurdod eu bod wedi derbyn cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd i gyrraedd y pwynt yma.
Mae cyflwr yr adeilad, sydd ddim yn bell o Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech, yn cael “effaith weledol sylweddol” ar yr ardal, meddai’r awdurdod.
Ond cyn dychwel, mae’r Parc wedi gorfod darparu cartref newydd i ystlumod oedd wedi ymgartrefu yn yr adeilad. Fodd bynnag, y prif rwystr oedd cost y gwaith dymchwel.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, mae’r Awdurdod erbyn hyn wedi penodi contractiwr.