Mae ditectifs wedi cyhuddo dau ddyn ifanc mewn cysyltiad â marwlaeth Mark Winchcombe yn Sgiwen.

Bu farw Mark Winchcombe o’i anafiadau yn dilyn ymosodiad yn Abaty Nedd ddydd Sul (Medi 1).

Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad ac achosi cythrwfl, ac mae bachgen 16 arall wedi’i gyhuddo o achosi cythrwfl.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu nes ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Abertawe ar Fedi 19.

Mae dau berson ifanc 16 oed, ynghyd â dau 14 oed, wedii cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.