Mae un o wyfynod mwyaf prin Cymru wedi dychwelyd i’r Bannau Brycheiniog am y tro cyntaf ers can mlynedd.
Roedd y gwyfyn tenau i’w gael mewn deuddeg safle ar draws Cymru, ond mae pedwar safle newydd wedi cael eu darganfod eleni, gan gynnwys Cadwraeth Genedlaethol Cwm Cadlan yn y Bannau.
Mae’r gwyfyn yn adnabyddus am ei debygrwydd i wenyn, gydag abdomen melyn a du ac adenydd tryloyw, sydd â gwythiennau lliw du wedi’u diffinio’n dda yn rhedeg trwyddynt.
Mae’r gwyfyn wedi cael ei weld mewn safleoedd yng Nghaerfyrddin. Cafwyd hyd iddo yn Lavernock Point ym Mro Morgannwg hefyd – y tro cyntaf iddo gael ei weld yn y Fro ers 1935.
Yn ôl George Tordorff, Uwch Swyddog Cadwraeth i Gadwraeth Glöynnod Byw Cymru, mae haf cynnes 2018 a gwanwyn braf eleni wedi chwarae rhan yn ei ddychweliad.
“Ar un adeg roedd y gwyfyn hwn yn cael ei gofnodi’n gyson ar draws gwledydd Prydain, ond mae wedi dirywio’n sylweddol dros y degawdau diwethaf, felly mae’n galonogol ei weld yn cael blwyddyn mor dda yng Nghymru,” meddai George Tordoff.