Mae Llywydd y Cynulliad wedi cytuno i adalw’r Cynulliad yn gynnar yn dilyn cais gan Brif Weinidog Cymru.
Daeth y cais gan Mark Drakeford yn dilyn penderfyniad Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, i gau’r Senedd yn San Steffan am gyfnod o fwy na mis cyn Brexit.
Dywed Mark Drakeford fod angen ailymgynnull y Cynulliad er mwyn i aelodau “drafod yr argyfwng cyfansoddiadol sydd bellach yn wynebu Cymru a’r Deyrnas Unedig”.
Mae disgwyl i’r cyfarfod llawn cyntaf yn y Cynulliad gael ei gynnal ar Fedi 5.
“Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, rwyf wedi cael cais gan y Prif Weinidog i adalw’r Cynulliad yr wythnos nesaf er mwyn trafod y datblygiadau diweddaraf o ran Brexit,” meddai Elin Jones.
“Rwyf wedi cytuno i’r cais ac, yn sgil hyn, bydd Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ddydd Iau, Medi 5.
“Rydym ar dir cyfansoddiadol digynsail ac, am fod Senedd y Deyrnas Unedig yn ailymgynnull yr wythnos nesaf, mae’n fater o egwyddor seneddol y dylai Aelodau’r Cynulliad hefyd gael y cyfle i siarad ar ran eu hetholwyr ar bwnc o’r fath arwyddocâd.”