Mae dynes, 33, wedi cael ei chyhuddo o gyflawni cyfres o droseddau yn dilyn tân mewn adeilad yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd y Frenhines am tua 2.30yb ddydd Sul (Awst 25).

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bu’n rhaid i swyddogion fynd i mewn i’r adeilad ar ôl i berson ffoi rhagddyn nhw.

Fe gafodd y ddynes ei harestio yn y fan a’r lle, ac erbyn hyn mae’n cael ei chyhuddo o gynnau tân yn fwriadol, yn ogystal â dau achos o ymosod ar heddwas ac un achos o fygwth heddwas.

Roedd disgwyl iddi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun (Awst 26).