Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu’r cynnydd a wnaed mewn cyfarfod trawsbleidiol yn Llundain heddiw (dydd Mawrth, Awst 27) er mwyn trafod cynllun i atal Brexit heb gytundeb.

Roedd y cyfarfod yn un rhwng arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a chynrychiolwyr o’r SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, yr Independent Group for Change a Phlaid Cymru.

Ar ddiwedd y cyfarfod, fe gytunodd y gwrthbleidiau i roi blaenoriaeth i’r opsiwn o ddeddfu er mwyn atal Brexit heb gytundeb, er i’r opsiwn o gynnal pleidlais o ddiffyg hyder gael ei ystyried hefyd.

Mae’r ffocws ar ddeddfu yn awgrymu na fydd Jeremy Corbyn yn bwrw ymlaen â’i gynllun i ddisodli Boris Johnson fel Prif Weinidog – syniad a gafodd ei wrthwynebu gan rai o arweinwyr y gwrthbleidiau eraill.

“Cam ymlaen pwysig”

“Roedd heddiw yn gam pwysig ymlaen yn ymdrech Plaid Cymru i drechu Brexit,” meddai Adam Price ar ôl y cyfarfod.

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â phob un o’r gwrthbleidiau eraill er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi’r dinistr o Brexit heb gytundeb.”

Dywed datganiad ar y cyd rhwng y gwrthbleidiau: “Mae’r rhai oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn cytuno bod Boris Johnson wedi profi ei fod yn barod i ddefnyddio dulliau annemocrataidd er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb.

“Mae’r cynrychiolwyr wedi cytuno ar yr angen frys i gydweithio er mwyn dod o hyd i ffyrdd mwy ymarferol i atal Brexit heb gytundeb, gan gynnwys y posibilrwydd o ddeddfu a chynnal pleidlais o ddiffyg hyder.”

Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi cytuno i gynnal rhagor o gyfarfodydd.