Fe gafodd dros 30 o ymladdwyr eu galw i dân mawr mewn sgubor ym Mhowys yn gynnar y bore yma (dydd Mawrth, Awst 27).
Fe ddechreuodd y tân yn ardal Adfa ger Llanfair Caereinion am tua 12.30yb.
Cafodd y sgubor, a oedd yn 125 metr o hyd, ei difetha, yn ogystal â cherbyd sy’n cludo beliau gwellt.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, bu ymladdwyr yn ceisio atal fflamau rhag lledu i adeiladau cyfagos.
Roedd y criwiau, pan oedd y tân ar ei anterth, yn cynnwys rhai o Lanfair Caereinion, Y Drenewydd, Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanfyllin a Llandrindod.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un damweiniol, meddai’r gwasanaeth ymhellach.