Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll o Rhondda Cynon Taf.
Does neb wedi gweld Luke Button ers 12.15 fore heddiw (dydd Sul, Awst 25) pan oedd e yng nghlwb cymdeithasol Gilfach Goch.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwych, oddeutu 6’5″ o daldra ac o gorffolaeth denau.
Mae ganddo fe wallt llwyd byr a barf.
Pan aeth e ar goll, roedd e’n gwisgo crys glas a gwyn, jîns glas golau ac esgidiau rhedeg gwyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.