Mae cwmni Pencefn Feeds o ardal Tregaron wedi talu £40,000 ar ôl i bysgod gael eu gwenwyno a’u lladd yn afon Teifi.

Fe ddaw yn dilyn ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’r digwyddiad ym mis Rhagfyr 2016.

Mae lle i gredu bod hyd at 18,000 o bysgod wedi cael eu lladd dros bellter o bum milltir, ar ôl i 44,000 galwyn o hylif ddod o ffatri.

Bydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru’n derbyn £15,000 er mwyn adfer cynefin y pysgod.

Bydd £5,000 yn mynd tuag at weithgareddau i addysgu plant lleol am bysgod a’r amgylchedd.

Mae talu costau yn hytrach na chael dirwy yn golygu y gall y gymuned leol elwa.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi croesawu’r defnydd o’r arian i wneud yn iawn am ddifrod i’r amgylchedd.

Doedd dim modd dwyn achos yn erbyn dau gwmni arall, Hallmark Power sydd wedi mynd i’r wal, a’r contractiwr ComBigaS UK, sydd wedi dod i ben.