Ar drothwy Sioe Awyr Y Rhyl dros benwythnos gwyl y banc, mae Cyngor Sir Ddinbych a Heddlu’r Gogledd yn annog pobl i gerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y digwyddiad er mwyn osgoi tagfeydd traffig.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jane Banham: “Gan fod cymaint o bobl yn dod i’r dref mae hi’n bwysig fod mynychwyr, modurwyr, siopwyr a phreswylwyr yn ymwybodol o’r trefniadau traffig y mae’r trefnwyr a’r Cyngor yn eu paratoi er mwyn osgoi tagfeydd ac amhariad.”
Mae’r sioe, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref y Rhyl, yn cael ei chynnal yn y Rhyl ddydd Sadwrn a dydd Sul (24 a 25 Awst), a bydd yn cynnwys arddangosfeydd gan awyrennau Typhoon Eurofighter yr Awyrlu, awyrennau bomio Lancaster, Spitfire a Hurricane yn ogystal â Team Raven, tîm arddangosfa campau awyr.
‘Cerdded neu feicio’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r mynychwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a dylai’r rhai sydd yn byw yn y Rhyl a’r ardaloedd cyfagos gerdded neu feicio i’r digwyddiad er mwyn lleihau’r traffig ar y ffyrdd.
“Mae’r rhai sydd yn teithio mewn car yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar er mwyn cael lle i barcio yn agos at y digwyddiad sydd yn dechrau am 1.20pm, ond mae’r gweithgareddau ar y ddaear yn dechrau am 11am.”
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Jane Banham: “Rydym ni hefyd yn annog ac yn atgoffa pobl i sicrhau fod eu cerbydau wedi’u cloi ac i gael gwared ar unrhyw eitemau o werth neu eu cuddio pan fydd y cerbyd yn wag.”
Bydd Maes Parcio Canolog y Rhyl ar gau i draffig sydd yn cyrraedd neu’n gadael rhwng 5pm a 6pm y ddau ddiwrnod, gan y bydd y ffordd rhwng y promenâd a thop Stryd y Dŵr hyd at dop Fairfield Avenue ar gau.
Bydd gwasanaethau parcio a cherdded yn weithredol yn y Nova ym Mhrestatyn.