Mae bron i ddau o bob tri disgybl safodd arholiadau TGAU yng Nghymru wedi llwyddo i gael gradd A*- C eleni. Mae’n gynnydd o 1.2% ar ganlyniadau y llynedd.

Ond mae’r ganran sy’n llwyddo i ennill y graddau gorau, A*-A, wedi aros yn sefydlog at 18.4%.

Mae canran y disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C ym mhob un o’r pynciau gwyddonol unigol (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) wedi codi; tra bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg  wedi cynyddu 22.8%, gyda dros 2,800 yn fwy yn ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.

Enillodd 58.1% o fyfyrwyr radd A*-C mewn TGAU Mathemateg – Rhifedd, ac enillodd 59% radd A*-C mewn TGAU Mathemateg.

Y flwyddyn gyntaf

Dyma’r flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll yr arholiadau TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd ar ôl i’r opsiwn cwrs byr gael ei ddileu llynedd. Er ei fod yn fwy heriol, mae’r cynnydd yn y nifer a ymgeisiodd wedi arwain at gynnydd o 12.5% o ddysgwyr yn ennill A*-C yn y cymhwyster cwrs llawn.

Eleni, fe wnaeth 1,500 o ddysgwyr ychwanegol sefyll arholiadau TGAU Gwyddoniaeth, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol llynedd. Mae’r newid diwylliant parhaus hwn o ganlyniad i’r symudiad i ffwrdd oddi wrth gofnodion cyffredinol i gymwysterau gwyddoniaeth alwedigaethol yn 16 oed.

Gweinidog yn canmol 

“Heddiw rydym wedi gweld gwelliant mewn perfformiad cyffredinol ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw a diolch i’r athrawon sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r cymwysterau newydd hyn,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Llynedd gwelsom gynnydd dramatig o 50% yn y niferoedd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth. Rwy’n falch o weld bod niferoedd a chanlyniadau yn parhau i gynyddu, gyda mwy o ddisgyblion yn ennill graddau A*-C, a mwy yn ennill y graddau uchaf mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

“Mae’r cynnydd hwn yn nifer y dysgwyr sydd yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth yn golygu bod mwy o bobl ifanc yn derbyn cymwysterau sy’n arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer astudio gwyddoniaeth ymhellach. Mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwyddonwyr Cymru yn y dyfodol.”