Mae angen i gynllun ail-wylltio enfawr yn y canolbarth weithredu “o’r gwaelod i fyny” os yw am lwyddo, yn ôl cynghorydd lleol.
Bwriad ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yw defnyddio 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr mewn rhannau o ogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys er mwyn adfer rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt.
Mewn datganiad yn ddiweddar, mae arweinwyr y cynllun, sy’n cynnwys yr elusen Rewilding Britain a mudiadau cadwriaethol eraill, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu “gwrando’n fwy gofalus” o hyn ymlaen yn sgil pryderon yn lleol.
Maen nhw hefyd wedi cynyddu eu gweithgarwch o fewn yr ardal benodedig yn sgil penodi swyddog i weithio o swyddfa ym Machynlleth er mwyn “ymgysylltu mwy â phobol leol, grwpiau cymunedol a busnesau”.
Gwrando ar drigolion lleol
Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy’n cynrychioli ardal Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys, mae’r datblygiad hwn yn “gam ymlaen”, ond ychwanega y dylai fod wedi digwydd ynghynt.
“Maen nhw wrthi ar y cynllun ers sawl blwyddyn bellach, ond fawr ddim o ymgynghori a thrafod gyda’r gymuned leol na’r diwydiant amaethyddol,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n glasur o sefyllfa o sut i beidio â gwneud rhywbeth, i ddweud y gwir. Mae unrhyw un sy’n dod a mynd i’r un gwaith o ddatblygu cymunedol, wrth feithrin prosiectau newydd a chynlluniau, wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned yn holi barn a chynnal cyfarfodydd ac yn y blaen.
“Wrth gwrs, mae’n broses hir, sy’n gallu bod yn araf ac yn cymryd amser ac egni, ond mae’n rhaid ei wneud er mwyn sicrhau perchnogaeth leol ar y cynllun ar ddiwedd y dydd.”
Cwestiynu’r cymhelliad
Mae Elwyn Vaughan yn ystyried ei hun yn “ddyn gwyrdd”, ond mae’n credu y dylai unrhyw arweiniad ar wella’r amgylchedd, ac sy’n effeithio ar ardal benodol, ddod o’r gymuned leol os yw am lwyddo yn ei amcan.
Ychwanega fod ei brif bryder ynghylch y cynllun ‘O’r Mynydd o’r Môr’ yn deillio o’r ffaith mai mudiadau fel Rewilding Britain sy’n gyfrifol amdano, ac mae’r gair ‘Rewilding’ ei hun yn “ddigon i godi ofn a phryderon ynglŷn a beth yw’r gwir agenda”, meddai.
Mae hefyd yn “amheus” o’r cyllid gwerth £3.4m mae’r prosiect wedi ei dderbyn gan y gronfa Arcadia, sydd â chysylltiadau agos â’r cwmni Ingleby Farms & Forests. Mae sylfaenydd y gronfa, Lisbet Rausing, hefyd yn gyfarwyddwr ar y cwmni ffermio.
“Maen nhw’n ffermio 100,000 hectar dros y byd,” meddai Elwyn Vaughan. “Y nhw yw’r tirfeddiannwr tramor mwyaf yn Seland Newydd, ac maen nhw’n cynhyrchu 61,000 o ŵyn yn flynyddol yno.
“Bellach, maen nhw wedi prynu tir yn Rwmania a gwledydd y Baltig i gynhyrchu ŵyn ar gyfer Sbaen, Groeg ac ati – marchnadoedd traddodiadol ffermwyr ucheldir Cymru.”
Dim gorfodaeth
Mae arweinwyr ‘O’r Mynydd i’r Môr’ eisoes wedi pwysleisio na fydd ffermwyr na thirfeddianwyr lleol yn cael eu gorfodi i fod yn rhan ohono.
“Mae cymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn O’r Mynydd i’r Môr yn gwbwl opsiynol, ac nid oes gan y prosiect unrhyw awydd na phŵer i orfodi unrhyw un i adael eu tir,” medden nhw.
“Ni fyddwn yn hyrwyddo pryniant tir, ac ni ddefnyddir unrhyw ran o’r cyllid o £3.4m i brynu tir.
“Rydym am gefnogi arferion ffermio cynaliadwy, gan gynnwys pori anifeiliaid a chynhyrchu cig. Ac nid ydym am ail-gyflwyno anifeiliaid ysglyfaethus fel bleiddiaid neu lyncs.
“Mae O’r Mynydd i’r Môr am weithio gyda’r gymuned i adfywio’r dirwedd, ffermio a’r economi yng nghanolbarth Cymru, gan sicrhau bod natur yn ffynnu ar yr un pryd.”