Mae cerdyn teithio trenau newydd hanner pris yn mynd ar werth i bobol 16 I 17 oed heddiw (dydd Mawrth, Awst 20).
Mae’n golygu bydd perchnogion y cerdyn yn talu ffi plentyn wrth deithio yng Nghymru ac yn Lloegr er iddynt fod o dan 15 oed.
Mae’n bosib prynu’r cerdyn £30 ar-lein o 9 o’r gloch ac fe fydd hi’n gallu cael ei defnyddio o Fedi 2 ymlaen.
Yn ôl gweithredwyr trenau fe fydd teithwyr yn arbed £186 y flwyddyn ar gyfartaledd ar deithiau ysgol, coleg, gwaith a hamdden drwy’i ddefnyddio.
Fe fydd y mwyafrif o deithiau 50% yn rhatach, gan gynnwys ar yr adegau prysuraf ac ar gyfer ticedi tymor. Mae hi’n gymwys am flwyddyn, neu tan mae’r person yn troi’n 18 oes daw hynny’n gynt.
Mae ffigurau’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn dangos, rhwng Ionawr 1995 – tua’r amser y cafodd y rheilffyrdd eu preifateiddio – ac Ionawr 2019, cynyddodd prisiau trên 21% ar gyfartaledd.
Mae disgwyl i’r ffigwr yma godi o 2.8% erbyn blwyddyn nesaf.