Mae tân ar safle becws y Village Bakery yn Wrecsam bellach o dan reolaeth, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. 

Fe gafodd diffoddwyr tân eu galw toc wedi 8.40yb heddiw (dydd Llun, Awst 19) yn dilyn adroddiadau bod tân ar safle’r cwmni ar Ffordd Coed Aben, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Yn ôl y Gwasanaeth Tân, roedd y tân wedi cydio “yn llwyr” yn yr adeilad, ac roedd y fflamau wedi lledu i floc o swyddfeydd cyfagos.

Roedd wyth o beiriannau tân yno, ynghyd â dau beiriant chwistrellu dŵr.

“Asesu’r difrod”

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Village Bakery, Robin Jones ar gyfrif Twitter y cwmni bod pob un o’u staff yn ddiogel a’u bod yn cydweithredu â’r gwasanaeth tân er mwyn asesu’r difrod i’r becws sydd wedi cael ei effeithio.

Roedd y becws a gafodd ei ddifrodi yn cynhyrchu pice ar y maen a dywed y cwmni eu bod yn gwneud eu gorau i leihau’r effaith posibl ar gyflenwadau. Fe fyddan nhw’n symud y gwaith cynhyrchu i un o’u safleoedd eraill, meddai Robin Jones.