Gethin Jenkins
Gethin Jenkins v Nicolas Mas

Mae’r Ffrancwyr yn enwog am eu doniau trafod a’u gallu i greu moment o athrylith allan o ddim, ond does dim yn gymaint o falchder i Les Bleus na’u cryfder yn y sgrym. Mae yna bwyslais enfawr ym mhrif gynghrair Ffrainc ar fedru gosod sgrym gadarn er mwyn rhyddhau pêl lân dda i’r olwyr. Mae’r gŵr o Perpignan yn ddidrugaredd yn yr ardal yma ond mae Gethin Jenkins wedi rhyfeddu pawb ar ôl dychwelyd wedi cyfnod o wyth mis wedi’i anafu.

Mike Phillips v Dimitri Yachvili

Dyma ddau chwaraewr sydd yn allweddol i obeithion eu timoedd. Mae Phillips wedi cyfiawnhau’r ffydd a ddangosodd Warren Gatland ynddo wedi perfformiadau siomedig ar y cae ac ambell ffrwgwd  gythryblus oddi arno. Fe fydd Ffrainc yn dibynnu ar eu mewnwr, sy’n hanu o Georgia, i liwio eu gêm. A gyda Morgan Parra yn faswr dibrofiad tu allan iddo fe fydd yna faich ychwanegol ar ysgwyddau Yachvili. Heb os fydd y ddau yma yn darged i reng-ôl eu gwrthwynebwyr.

Toby Faletau v Imanol Harinordoquy

Pan mae Harinordoquy yn chwarae’n dda mae Ffrainc yn chwarae’n dda. Mae’r wythwyr yn neidiwr effeithiol yng nghefn y llinell syn caniatáu i’w olwyr groesi’r llinell fantais. Fydd blaenwyr Cymru yn edrych i dawelu’r Basgwr yn gynnar gan ei fod yn effeithiol yn y chwarae rhydd hefyd. Mae Toby o Tonga wedi profi ei hun yn un o sêr y gystadleuaeth mor belled, mae ei gampau amddiffynnol wedi bod yn arwrol heb sôn am ei allu i dorri’r dacl gyntaf a chreu momentwm i Gymru.

Jamie Roberts v Maxime Mermoz

Mae pawb bellach yn ymwybodol o bwysigrwydd Jamie Roberts i obeithion Cymru, ac fe fydd Mermoz ac yn wir Thierry Dusautoir wedi cynllunio yn graff ar gyfer y canolwr. Fe fydd Ffrainc yn ddibynnol ar eu tri ôl i greu’r bygythiad ymosodol i linell Cymru. Dyletswydd Mermoiz a’i gyfaill yn y canol Rougerie fydd cysgodi Jamie Roberts a John Davies.