Mae’r crysau cochion wedi colli chwech o’r saith gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc, eu gwrthwynebwyr yn y gêm enfawr yfory.

Ond wedi dweud hyn, mae’r bwcis yn gosod tîm Warren Gatland yn ffefrynnau i gyrraedd y ffeinal.

Ers i Gymru golli 28-9 yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis Mawrth, mae hanes y ddwy wlad ar y cae rygbi wedi bod yn dra gwahanol. 

 Ar ôl sefydlu eu hunain fel un o’r tîmau mwya’ cyffrous yng Nghwpan y Byd, mae’r Cymry yn cael eu ffafrio o drwch blewyn i guro Les Bleus ym Mharc Eden.

Mae Ffrainc wedi penderfynu cadw’r tîm gurodd Lloegr yn rownd yr wyth olaf.

Roedden nhw’n pryderu am y mewnwr Dimitri Yachvili, ond cafodd ei enwi i ddechrau’r gêm. Mae’n bosib y bydd ei gicio at y pyst yn diodde’ oherwydd ei fod wedi derbyn clais i’w glun.  Os nad yw am fentro taro’r bêl mae Morgan Parra yn fwy na pharod i dderbyn y dyletswyddau cicio.

Mae Parra wedi llwyddo gyda 90% o’i giciau at y pyst yng Nghwpan y Byd hyd yma.

 O ran Cymru, mae Rhys Priestland wedi ei anafu wrth gwrs ond mae Luke Charteris yn holliach yn dilyn anaf i’w ysgwydd.