Nathan Cleverly
Tra bydd llygaid Cymru ar Seland Newydd a’r ornest rygbi fawr y bore fory, gyda’r nos bydd yna  Gymro yn amddiffyn ei Bencampwriaeth WBO pwysau trwm.

Bydd Nathan Cleverly yn herio’r Sgowsar Tony ‘Bomber’ Bellew yn Lerpwl nos yfory.

Heb unrhyw leoliad addas yng Nghaerdydd, roedd Cleverly wedi penderfynu herio Bellew yn Lerpwl.

Ond yn ôl ei wrthwynebydd doedd Cleverly ddim yn medru denu digon o gefnogwyr i ddod i’w wylio yng Nghaerdydd.

Yn ôl Tony ‘Bomber’ Bellew dyma’r prif rheswm y mae’r ornest yn Lerpwl ac nid yng Nghaerdydd.

Mae Nathan Cleverly yn ffefryn i amddiffyn ei bencampwriaeth WBO pwysau trwm – ysgafn.

Ond mae Bellew yn credu fod ganddo fantais oherwydd bod y frwydr yn yr Echo Arena yn Lerpwl, y ddinas lle gafodd ‘Bomber’ ei fagu.
 
Fe ddaeth Cleverly yn bencampwr Prydain a’r Gymanwlad ddwy flynedd yn ôl, ond mae ‘Bomber’ Bellew yn dweud ei fod yn fwy poblogaidd.

“Fi sydd yn denu’r cefnogwyr, nid efe.  Dyna pam mae’r ornest am ddod i Lerpwl nid Caerdydd,’’ meddai.
 
Mae’n hysbys nad yw’r ddau baffiwr yma’n hoffi ei gilydd, ac mae awch aruthrol am y frwydr nos Sadwrn.
 
’’Mae’r drwgdeimlad wedi bod yn adeiladu ers cwpwl o flynyddoedd yn ôl bellach,” eglura Nathan Cleverly.

“Dechreuodd hyn pan oeddwn yn Bencampwr y Gymanwlad.  Roeddwn yn dal y teitl yr oedd Tony Bellew eisiau.  Dyw’r un o’r ddau ohonon ni wedi colli eto, felly wrth gwrs mae yna densiwn’’.

Bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw ar deledu Sky o chwech o’r gloch ymlaen.

Rhys Jones