Mae arweinwyr cynllun ail-wylltio yng nghanolbarth Cymru yn dweud eu bod nhw’n bwriadu “newid y ffordd” maen nhw’n gweithredu, ar adeg pan maen nhw’n cynyddu eu gweithgarwch yn yr ardal.
Bwriad ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yw defnyddio 10,000 hectar o ucheldir a 28,400 o fôr mewn rhannau o ogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys er mwyn cefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt.
Yn bennaf gyfrifol am y cynllun, sydd wedi derbyn cyllid gwerth £3.4m o gronfa Arcadia, mae’r elusen Rewilding Britain, ac mae’n cael ei gefnogi gan fudiadau cadwriaethol eraill, gan gynnwys Coed Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Forol.
Mae ffermwyr lleol wedi ymateb yn chwyrn iddo, ac wedi galw am ei ddiddymu wrth gyhuddo cadwraethwyr o “ddweud celwydd” wrthyn nhw.
Penodi swyddogion
Yn ôl llefarydd ar ran ‘O’r Mynydd i’r Môr’, mae swyddog wedi cychwyn gweithio o swyddfa’r cynllun ym Machynlleth oddi ar yr wythnos ddiwethaf, gyda’r nod o “ymgysylltu mwy â phobol leol, grwpiau cymunedol a busnesau”.
Bydd gan y tîm bum aelod staff o fis Awst ymlaen, gyda phedwar ohonyn nhw’n rhugl yn y Gymraeg ac un arall yn dysgu’r iaith, meddai wedyn.
“Mae O’r Mynydd i’r Môr am weithio gyda’r gymuned i adfywio’r dirwedd, ffermio a’r economi yng nghanolbarth Cymru, gan sicrhau bod natur yn ffynnu ar yr un pryd,” meddai’r llefarydd.
“Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, rydym am newid y ffordd rydym yn rhedeg y prosiect.
“Bydd hyn yn cymryd peth amser i’w drefnu, am fod yna ddeg o sefydliadau gwahanol yn rhan o’r bartneriaeth, ac mae llawer o waith i’w wneud.”