Yn ôl ffigurau’r asiantaeth waith Monster.co.uk dim ond 38% o bobol gyflogedig y wlad sy’n teimlo’n hyderus ynglyn â’u cyflogaeth,

Mae 34% yn dweud eu bod yn ddihyder ynglŷn â beth sydd i’w ddod yn y dyfodol.

Mae’r cynnydd yn yr economi gig wedi arwain at “gynnydd dramatig” yn swm y gwaith ansicr, yn ôl y data sydd wedi cael eu rhyddhau heddiw (dydd Gwener, Awst 16).

Yn ôl yr ymchwil y rhai sydd a’r lefelau addysg uchaf yw’r mwyaf tebygol o deimlo’n hyderus am eu gobeithion ym myd gwaith dros y pum mlynedd nesaf.

O ran gwledydd Prydain gyfan, dydi tua un o bob pedwar gweithio ddim yn teimlo’n hyderus am ddiogelwch ei swydd dros y chwe mis nesaf.

Mae hyder gweithwyr a cheiswyr gwaith ym marchnad lafur gwledydd Prydain ar ei lefel isaf ers 2015 mae’r ymchwil yn dangos hefyd fod mwy na thraean y rhai mewn gwaith yn teimlo’n llai hyderus am eu swydd oherwydd yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni.

Mae’r ymchwil, wnaeth holi 7,000 o bobl, yn ymwneud â chwarter cyntaf 2019.