Roedd yr heddlu wedi methu â diogelu dynes o Ddinbych yn ddigonol cyn iddi gael ei lladd gan ei chyn-bartner, yn ôl ymchwiliad.
Bu Laura Stuart, 33, yn dioddef o “drallod, unigedd a chywilydd” cyn iddi gael ei thrywanu a’i lladd gan ei chyn-gariad Jason Cooper wrth iddi adael tafarn yn y dref ar Awst 12, 2017.
Roedd Heddlu’r Gogledd wedi derbyn 18 o adroddiadau pryderus ynglŷn â Laura Stuart a Jason Cooper dros gyfnod o ddwy flynedd rhwng Awst 2015 ac Awst 2017, gan gynnwys cyhuddiadau o ymosod.
Yn ôl ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu [IOPC], ni chafodd Jason Cooper ei arestio na’i gyfweld mewn cysylltiad â’r cyhuddiadau ac ni chafodd ei ffon ei gymryd oddi arno er mwyn ymchwilio i honiadau o stelcian neu aflonyddu.
Er i’r heddlu geisio cael mwy o wybodaeth gan Laura Stuart ynglŷn â’r cyhuddiadau o ymosod, a gwneud cyfeiriadau at asiantaethau eraill a fyddai wedi gallu helpu, nid oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithredu unrhyw fesurau diogelu ychwanegol, na holi Jason Cooper ar sail y wybodaeth a oedd ganddynt.
Yn dilyn cyfarfod ym mis Ebrill 2019 mae un plismon wedi ei gael yn euog o gamymddygiad am iddo fethu â chydymffurfio â pholisi cam-drin domestig Heddlu Gogledd Cymru ar ôl i Jason Cooper anfon negeseuon bygythiol at Laura Stuart.
Cafodd Jason Cooper ei garcharu am 31 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o lofruddio ei gyn-gariad.
Gwelliannau
Yn dilyn yr ymchwiliad mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud gwelliannau sy’n cynnwys cael ei swyddogion i ddefnyddio offer fideo wrth fynd i’r afael a digwyddiadau o gam-drin domestig.
Mae’r llu hefyd wedi creu swydd newydd i hyfforddwr Gwarchod Pobol Fregus i helpu gwella hyfforddiant y llu mewn achosion o drais yn y cartref.
“Mae’r ystod eang o nodweddion a dynameg cam-drin domestig yn golygu bod angen i swyddogion yr heddlu fod yn wyliadwrus. Mae angen edrych ar ddigwyddiadau y gellir eu hystyried yn risg isel fel rhan o ddarlun mwy fel bod heddluoedd yn gweld risg yn gyfannol i ddiogelu menywod fel Laura Stuart yn well,” meddai Rheolwr Gweithrediadau IOPC, Mel Palmer.
“Rydym yn falch o glywed bod Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud gwelliannau ac yn darparu hyfforddiant i swyddogion rheng flaen, yn enwedig ar reoli ymddygiad gorfodol a stelcian.”