Fe ddaeth cadarnhad heddiw [dydd Iau 15 Awst] mai Syr David Henshaw yw’r ymgeisydd sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru i fod yn Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Ar hyn o bryd, ef yw cadeirydd dros-dro y corff, ac mae wedi bod yn gwneud y gwaith ers Tachwedd 1, 2018.

Cyn i Gadeirydd CNC gael ei benodi’n ffurfiol, bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ar Fedi 26.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ganddo 1,900 aelod o staff ledled Cymru, gyda chyllideb o £180 miliwn.

Pwy yw David Henshaw?

Cafodd ei eni a’i fagu yn Lerpwl. Mae’n byw yng ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn gyda’i wraig. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2004.

Mae wedi dal swyddi Prif Weithredwr gyda Chyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Dinas Lerpwl, gan arwain adolygiad mawr o Gymorth i Blant a’r Asiantaeth Cymorth Plant ar gyfer y llywodraeth ganolog.

Mae hefyd wedi bod yn uwch-Gadeirydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn bendogol gydag Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd-orllewin ac Ysbyty Plant Ymddiriedolaeth Sefydliad Alder Hey.

Mae wedi bod yn Gadeirydd dros-dro ar sawl Ymddiriedolaeth Ysbyty mewn llefydd oedd yn profi problemau.

Fe fu’n Gadeirydd Bwrdd Cynghori Prif Weinidog Cymru ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.