Mae pâr o deloriaid Savi wedi nythu am y tro cyntaf erioed yng Nghymru – gan wneud eu cartref yng ngwarchodfa Cors Ddyga, Ynys Môn.
Mae’r adar bach yn adnabyddus am eu tril hir, byrlymus, yn adar prin iawn, gyda dim ond wyth wedi cael eu gweld yng Nghymru cyn hyn. Er eu bod yn gyffredin yn ne Ewrop, maen nhw’n mentro i ben draw eu hardal arferol trwy ddod i Gymru.
Mae’r rhan fwyaf o gofnodion yn nodi’r gwrywod yn aros am ychydig ddyddiau’n unig, ond byth yn nythu. Felly mae’r datblygiad diweddaraf, o weld pâr yn bridio ac yn nythu, wedi cyffroi staff yr RSPB yn y warchodfa.
“Rydan ni wrth ein boddau i gadarnhau bod y pâr cyntaf o deloriaid Savi yn nythu yma ar y warchodfa,” meddai Ian Hawkins, rheolwr Cors Ddyga.
“Mae’n dangos bod yr holl waith rydyn ni wedi’i wneud i adfer cynefinoedd y gwlyptir wedi talu ar ei ganfed ac mae’n saff dweud bod Cors Ddyga yn lle o bwysigrwydd cenedlaethol i natur.
“Gobeithio y bydd ein gwaith yn denu rhywogaethau newydd wrth i’w ardaloedd bridio symud tua’r gogledd ac i’r gorllewin mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.”