Mae Hybu Cig Cymru yn dweud bod yna “lawer gormod” o feirniadu wedi bod ar gig coch yn ddiweddar, a hynny ar sail “anwybodaeth”.
Daw sylwadau’r corff wedi i Brifysgol Goldsmiths yn Llundain wahardd y gwerthiant o gig eidion ar ei champws mewn ymgais i wella’r amgylchedd.
Yng Nghymru wedyn, mae Prifysgol Abertawe yn gwobrwyo unigolion am beidio â bwyta cig ar ddydd Llun, ac mae’r cynllun hwnnw ar fin cael ei newid i gynnwys pob diwrnod o’r wythnos.
Yn ôl Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, mae yna “fanteision iechyd pwysig iawn i gig fel rhan o ddeiet cytbwys”, ac mae’n galw ar brifysgolion i ystyried hynny wrth lunio polisïau.
Mae hefyd yn pwysleisio bod dulliau ffermwyr Cymru o gynhyrchu cig “yn defnyddio llawer llai o adnoddau’r blaned na chig o sawl gwlad dramor neu, yn wir, o sawl math o fwyd o blanhigion.”
Dim cig yn “beryglus”
“Mae cyngor unffurf i leihau bwyta cig yn groes i farn gwyddonwyr, ac yn wir o bosib yn beryglus i iechyd,” meddai Gwyn Howells ymhellach.
“Mae rhai grwpiau o fewn y gymdeithas yn dioddef yn gynyddol o ddiffyg rhai o’r mwynau a’r fitaminau sy’n bresennol mewn cig coch.
“Yn wir, mae tystiolaeth fod cig o anifeiliaid sy’n cael eu magu yn bennaf ar laswellt yn uchel mewn Omega 3 – sy’n wych ar gyfer yr ymennydd.
“Wrth annog deiet cytbwys ymhlith staff a myfyrwyr a cheisio lleihau eu hôl troed carbon, dylai sefydliadau addysgiadol ystyried eu polisïau caffael er mwyn sicrhau fod pob math o fwyd y maen nhw’n ei brynu yn iachus ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy, yn hytrach na’r cam gwag o ganolbwyntio ar un math o fwyd yn unig.”