“Mae mwy i Gymru na defaid, cymoedd glawog ac enwau lleoedd amhosib i’w hynganu,” yn ôl erthygl yn y geid Lonely Planet.
Daw’r ergyd mewn erthygl gan Kerry Walker sy’n dateglu’r deg profiad gorau i deithwyr yn y Deyrnas Unedig. Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n ddegfed ar y rhestr.
Ar ôl agor ag ergyd, mae’r darn yn mynd yn ei flaen i ddweud bod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn “y gorllewin gwyllt”.
Ond mae’n “dal yn teimlo fel dihangfa wych”, meddai’r darn, sy’n ychwanegu bod “bywyd o gwmpas fan hyn yn symud yn y lôn araf”.
Wrth droi ei sylw at Ddinbych-y-Pysgod, caiff traethau’r ardal sylw ond mae’r darn hefyd yn dweud “po fwyaf pell yr ewch chi i’r gorllewin, y mwya’ gwyllt yw e”.
Yng ngweddill y darn, mae Tyddewi a’r Preselau hefyd yn cael sylw.
Gŵyl Ffrinj Caeredin, yr Amgueddfa Brydeinig, Giant’s Causeway, Baddonau Rhufeinig Caerfaddon, Wal Hadrian, cinio dydd Sul tafarn, oriel Tate Modern, Côr y Cewri a Llyn Windermere yw’r atyniadau eraill sy’n cael sylw.
Wrth edrych y tu hwnt i’r deg uchaf, mae’r Wyddfa’n rhif 45, Penrhyn Gŵyr yn rhif 47 a gêm rygbi yn Stadiwm Principality yn rhif 48.
Kerry Walker a’r ymateb i’r darn
Ar ei thudalen Twitter, mae Kerry Walker, sydd wedi trydar dolen i’r darn, yn ei disgrifio’i hun fel “awdur teithio wedi’i lleoli yng Nghymru, awdur @lonelyplanet, yn gaeth i antur, ffotograffydd. Arbenigwraig ar Gymru @TelegraphTravel. Caru mynyddoedd, llefydd oer, anialwch go iawn”.
O dan y disgrifiad ohoni, noda’r proffil ei bod hi’n byw a gweithio yn Llundain. Dydi’r darn ddim wedi cael ymateb ar dudalen Twitter personol Kerry Walker.
Ond mae un sylw ar dudalen Lonely Planet yn dweud nad yw enwau llefydd Cymraeg yn amhosib i’w hynganu – dim ond “i dafod fras, anniwylliedig”.