Bu farw’r barnwr a’r Prif Lenor, Robyn Léwis (Robyn o Lŷn) yn 89 oed.
Ef oedd y Prif Lenor cyntaf i ddod yn Archdderwydd Cymru, a’r cyntaf i ymgyrchu i gael ei ethol i’r swydd.
Fe fu’n ymgeisydd yn enw’r Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd yn 1955, cyn troi at Blaid Cymru yn y 1960au a dod yn is-Lywydd arni. Yn rhinwedd ei swydd yn gyfreithiwr yn nhref Pwllheli, fe gynrychiolodd nifer o ymgyrchwyr iaith am eu rhan mewn protestiadau ac achosion unigol.
Fe enillodd y Fedal Ryddiaith gyda’i gyfrol o ysgrifau, Esgid yn Gwasgu, yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw 1980. Fe fu’n Archdderwydd rhwng 2002 a 2005, gan wneud datganiadau gwleidyddol iawn o’r Maen Llog.
Ei gymwynas fwyaf, mae’n debyg, oedd ei waith yn bathu termau cyfreithiol yn Gymraeg, ac mae ei gyfrol sylweddol, Geiriadur y Gyfraith, yn gosod y safon yn y maes.
Meddwl craff a miniog
Mewn teyrnged, mae Gorsedd Cymru wedi disgrifio Robyn Léwis fel “cymeriad lliwgar a pharod ei farn”.
“Roedd ei feddwl yn graff ac yn finiog, a’i gyngor yn ddoeth ac yn werth ei gael,” meddai llefarydd ar ran y corff. “Roedd ei arbenigedd ar fyd y gyfraith yn gaffaeliad mawr i’r Orsedd, ac roedd ganddo allu ardderchog i drin geiriau.
“Roedd yn ymfalchïo yn ei rôl fel cyn-Archdderwydd ac yn mwynhau bod yn rhan o bob seremoni a digwyddiad Gorseddol. Gwelwyd ei golli’n arw ar y llwyfan yn Sir Conwy’r wythnos ddiwethaf.
“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ac yn cofio am ei gyfraniad arbennig i fyd llenyddiaeth yma yng Nghymru ac i’r Orsedd a’i gwaith.”
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd cyhoeddi teyrnged, gan ddiolch iddo am ei “gyfraniad oes” i’r brifwyl.