Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai modd i ffermwyr hawlio hyd at 90% mewn benthyciad os nad yw eu Taliad Sylfaenol yn cyrraedd mewn pryd.

Y llynedd, roedd cynllun tebyg ond yn galluogi busnesau fferm i hawlio 70% o’r taliad os nad oedd yn cyrraedd ar y dyddiad talu cyntaf.

Yn ôl y Gweinidog tros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, y gobaith yw y byddai’r cymorth ychwanegol yn rhoi “sicrwydd” i ffermwyr sy’n bryderus ynglŷn â’u llif arian yn wyneb Brexit heb gytundeb.

Cymorth i ffermwyr

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion i ddisodli’r system bresennol o gymorthdaliadau – sy’n talu ffermwyr yn ôl faint o dir sydd ganddyn nhw – gyda system newydd a fydd yn eu talu am wneud gwaith amgylcheddol.

Ond does dim arwydd y byddai newidiadau yn cael eu cyflwyno tan o leiaf 2021.

Mae disgwyl i ffermwyr dderbyn eu taliad nesaf o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol rhwng Rhagfyr 2 (2019) a Mehefin 30 (2020).

“Yn sgil yr holl ansicrwydd ynghylch effaith Brexit, rydym yn benderfynol o gynnig pob cefnogaeth bosib i ffermwyr, gan sicrhau y byddan nhw’n gallu wynebu’r heriau sydd i ddod dros y misoedd nesaf,” meddai Lesley Griffiths am y cynllun benthyciad.

“Gan fod y Deyrnas Gyfunol yn fwyfwy tebygol o ymadael heb gytundeb, mae’n gwbwl allweddol ein bod yn paratoi ac yn darparu cymaint â phosib o gymorth i ffermwyr Cymru.”

Pryderon

Bydd yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn dod i ben ar Hydref 30 – ddiwrnod yn union cyn y mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae arweinwyr y diwydiant amaeth eisoes wedi dweud bod angen mwy o amser i fynegi barn ar gynigion yr ymgynghoriad, yn enwedig os oes yna bosibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Yn ôl Richard Tudor o NFU Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar sicrhau “cymaint o sefydlogrwydd ag sy’n bosib i fusnesau fferm Cymru.”

Ac mae Glyn Roberts, Llywydd yr FUW, yn dweud bod ganddo “bryderon difrifol” y byddai Brexit yn tynnu sylw oddi ar y ddogfen ymgynghorol.