Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd perfformiad Dafydd Iwan ar y maes heno yn symud o Lwyfan y Maes i’r pafiliwn wedi adolygiad yn sgil rhybudd melyn y Swydda Dywydd.
Roedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Trystan Lewis, wedi dweud ben bore heddiw y byddai’r perfformiad “yn digwydd” mewn rhyw fodd a bod asesiadau’n parhau.
Mae’r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi bod rhai o’r prif feysydd parcio bellach ar gau, ac wedi gofyn i deithwyr ddilyn y cyfarwyddiadau newydd.
Cyntaf i’r felin
Fe wnaeth trefnwyr yr ŵyl gyhoeddi ddydd Gwener bod Maes B a’r maes gwersylla yno wedi ei ganslo am weddill y penwythnos oherwydd y rhagolygon tywydd.
Mae disgwyl nawr y bydd Dafydd Iwan yn chwarae ar lwyfan y Pafiliwn tua 8yh – yn hytrach na 9 fel yr oedd yn wreiddiol – ac bydd perfformiadau yn parhau ar Lwyfan y Maes fel y drefn arferol hyd hynny.
Dim ond lle i 1,800 fydd yn y Pafiliwn fodd bynnag, ac felly cyntaf i’r felin fydd hi o ran seddi.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi symud arlwy’r Tŷ Gwerin i’r Babell Ddawns, a Chaffi Maes B i stondin Shwmae Sumae.
Mae’r Eisteddfod bellach wedi cyhoeddi bod y prif faes parcio ger y Maes bellach wedi’i chau yn gyfan gwbl, yn ogystal â’r maes parcio ger Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst.
Bydd ceir yn cael eu cyfeirio at feysydd parcio gwahanol, ac mae’r trefnwyr wedi gofyn i deithwyr ddilyn yr arwyddion newydd.
Mae’r maes parcio anabl ger y maes hefyd wedi cau, a bydd teithwyr oedd yn defnyddio hwnnw yn cael eu cyfeirio i faes parcio arall cyfagos ble bydd bysus gwennol yn eu cludo i’r maes.