Bydd dathliad o fywyd y bardd Dylan Thomas yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Cei Newydd, Ceredigion heddiw mewn ymgais i godi arian i arbed yr adeilad.
Adeiladwyd y Neuadd Goffa yn 1925 er mwyn cofio’r rheiny a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan y neuadd awditoriwm hyfryd, ac fe’i defnyddir gan glybiau amrywiol yn y dref a’r cyffiniau; fel man cwrdd i’r gymuned ac ymwelwyr.
Tref glan môr fechan yw Cei Newydd ar ein arfordir gorllewinol gyda phoblogaeth o oddeutu 1,000 o bobl sy’n cynyddu yn sylweddol dros yr haf gyda miloedd o ymwelwyr yn tyrru yno. Roedd Dylan Thomas yn byw yno am gyfnod a dywedir iddo gael ei ysbrydoliaeth i ysgrifennu ei glasur Dan y Wenallt o adnabod cymeriadau’r dref.
Cyfyngiadau ariannol
Ond o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol, nid yw Cyngor Ceredigion nawr yn fodlon ariannu’r neuadd er mwyn ei thrwsio a’i chynnal. Amcangyfrifir fod angen gwerth o leiaf £250,000 o waith er mwyn sicrhau neuadd safonol i’w defnyddio. Heb y gwaith hwn, bydd rhaid cau’r neuadd yn barhaol, ac o ganlyniad, bydd y gymuned yn colli cyfleuster hanfodol.
Tra bod pwyllgor o gefnogwyr yn ceisio am gymorthdaliadau a chronfa’r loteri, mae’r gymuned wedi tynnu at ei gilydd i gefnogi’r ymdrechion hyn.
Ffrindiau
Mae ‘Ffrindiau Neuadd Goffa Ceinewydd’ eisoes yn trefnu digwyddiadau ond, nid ydynt yn medru cadw’r neuadd ar agor heb gymorth pellach.
Heddiw mae’r Ffrindiau wedi trefnu arddangosfa gyda darlleniadau a sgyrsiau sy’n dathlu bywyd Dylan Thomas yng Nghei Newydd gan gynnwys yr awdur Jeff Towns (‘Bachan Dylan Thomas’), Dan Llywelyn Hall (artist) a cherddorion arbennig.
Bydd yr holl elw yn mynd at y Neuadd Goffa.