Mae golwg360 wedi bod draw i Faes B i gasglu’r ymateb gan y gwersyllwyr, wedi iddi ddod i’r amlwg tua hanner dydd heddiw am y Canslo gigs Maes B nos Wener a nos Sadwrn
Mae Annie Winter, Llio Owen, Ceri Glanson oll yn dod o Ddinbych, a heb gael unrhyw drafferth wrth drefnu gadael y safle.
Ond roedd y dair mewn hwyliau isel, ac yn siomedig nad yw Maes B yn mynd i fynd rhagddo.
“Mae o bach yn shit,” meddai Llio Owen wrth golwg360. “Rydan ni ond wedi aros tair noson, ac roeddwn i eisiau aros dwy noson arall. Roeddwn wedi [dal yn ôl] yn barod am y ddwy noson yma.”
Wnaeth y dair ddarganfod am y canslo ar Facebook, ac mae Ceri Glanson yn enwedig yn siomedig am y diffyg gwybodaeth gan yr Eisteddfod.
“Doedden nhw ddim wedi dweud wrthom ni, ond wnaethon ni glywed ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, doedden ni ddim yn deall ei fod yn wir.”
Mae’n dweud eu bod wedi gofyn i’r stiwardiaid am arian yn ôl, a’u bod nhw ddim wedi derbyn “llawer o information”. Mae’n ategu bod y penwythnos wedi’i “sbwylio”.
Parchu iechyd a diogelwch
Mae Dylan Hywel wedi bod yn gwersylla ym Maes B ers dydd Mawrth, a Bedwyr Edwards ers dydd Mercher, ac mae’r ddau’n dod o Ynys Môn.
I Dylan Hywel mae’r newyddion yn “sioc” ond mae’n dweud bod y digwyddiad wedi bod yn “class” ac yn “laugh” er gwaetha’ hynny. Mae Bedwyr Edwards hefyd yn ddigon hapus ei fyd.
“Health and safety ydy pob dim,” meddai. “Mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar ôl y plant ifanc sydd yna. Mae’n syniad call ar eu hochr nhw.”
Yr unig gŵyn sydd gan Dylan Huw yw ynghylch sut cafodd gwersyllwyr wybod am y canslo. Mi glywodd yntau gan ffrind a ffoniodd ef.
“Mae’r signal yn ddrwg, ac os ti ddim efo [signal] rhaid i chdi iwsio mobile data,” meddai. “Ac os ti ddim efo signal ti ddim yn gallu. Dyna’r unig broblem.
“Dydy’r neges methu mynd rownd. Os buasai ffrindiau ni ddim wedi ffonio ni, buaswn ni ddim yn gwybod.”
Triawd bodlon Hen Golwyn
Mae Lewis Spencer, Sam Stellard a Harri Gwilym wedi dod o Hen Golwyn ac mae’r tri yn ddigon bodlon gan eu bod dim ond yn byw “rhyw deg, ugain, munud i ffwrdd”.
“Roeddwn yn planio mynd adre heddiw beth bynnag oherwydd roeddwn wedi clywed am y glaw,” meddai Sam Stellard.
Talodd Harri Gwilym £105 am ei docyn, a thalodd Lewis Spencer a Sam Stellard £85 yr un am eu tocynnau.
Mae Sam Stellard yn dweud eu bod wedi gweld “pobol sydd newydd gyrraedd sydd wedi gorfod troi yn ôl”.