Mae’r dyn sy’n herio Alun Ffred Jones i fod yn Gadeirydd nesaf Plaid Cymru, wedi dweud wrth golwg360 mai “yr un hen wynebau” sydd ar lwyfannau cynadleddau’r Blaid, a bod angen rhoi platfform i “ddoniau newydd”.
O gael ei ethol yn gadeirydd, gobaith Dr Dewi Evans fyddai annog swyddogion Plaid Cymru i “ganolbwyntio’n fwy … ar ddenu barn a chefnogaeth ein haelodau” pe bai’n dod yn Gadeirydd, yn ôl y dyn ei hun.
Un polisi amlwg ganddo yw cynnig ‘amnesti’ i aelodau sydd wedi eu gwahardd – byddai Dr Dewi Evans yn croesawu Neil McEvoy a degau o gyn-aelodau yn Llanelli yn ôl i’r gorlan.
Mae hefyd yn awyddus i agor swyddfa i aelodau cyffredinol y blaid, a darpar aelodau, yn y gogledd ddwyrain.
Bydd yn ymweld â changhennau’r Blaid yn y gogledd ym mis Medi, ac mae ganddo wefan i roi hwb i’w ymgyrch hefyd.
Dewis y Cadeirydd
Yng nghynhadledd y blaid ym mis Hydref bydd pleidlais yn cael ei chynnal tros gadeiryddiaeth y blaid, a dau sydd yn y ras –Alun Ffred Jones a Dr Dewi Evans.
Lansiodd Dr Dewi Evans ei ymgyrch yn Llanrwst ar ddydd Mercher (Awst 8), ac yn sgil y digwyddiad mae wedi dweud bod angen i’r Blaid estyn clust i’w haelodau yn amlach.
“Dw i’n credu bod angen i grŵp y blaid ymestyn mas tipyn yn fwy nag ydym ni’n gwneud,” meddai wrth golwg360. “Wrth i’r Blaid gynyddu, mae’r diversity o gynrychiolaeth yn mynd i ehangu a chynyddu.
“Mae’n rhaid, rhaid, rhaid i ni gael gwell strwythurau [ar gyfer] cyfathrebu gyda’n haelodau [ac er mwyn] cael eu barn nhw ynglŷn â materion y dydd. Dydyn ni ddim yn gwneud hynny.
“Ac mae hynna’n fater i ni fel mudiad, fel plaid. Dyw e ddim yn gyfrifoldeb yr arweinyddiaeth. Mae’n rhaid i’r arweinyddiaeth arwain.”
“Diplomyddiaeth megaffon”
Yn ymateb i sylwadau Dr Dewi Evans, dywedodd ffynhonnel o fewn Plaid Cymru: “Mae ein strategaeth newydd a gyflwynwyd dan arweinyddiaeth Adam Price wedi derbyn cymeradwyaeth y pwyllgor gwaith, ac mae’r strategaeth honno yn ymdrin â’r materion mae Dr Evans yn eu codi.
“Yn wir, mae’n gosod nod i dyfu, ymestyn, a phroffesiynoli Plaid Cymru i’r radd na welwyd erioed o’r blaen yn ein hanes.
“Efallai byddai’n syniad i Dr Evans geisio cael gwybod beth sydd yn digwydd cyn cymryd rhan yn fath ddiplomyddiaeth megaffon, sydd mewn gwirionedd yn cyflawni fawr ddim ond tanseilio’r gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni.”