Mae digwyddiadau ledled Cymru wedi cael eu gohirio oherwydd yr ofnau am dywydd garw heddiw ac yfory (Awst 8 a 9).

Yn eu plith mae sioeau bach amaethyddol ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin , ynghyd â charnifal tref yng Ngheredigion.

Fe all hyd at 30mm o law syrthio ar rannau o Gymru dros gyfnod o rai oriau heddiw (dydd Gwener, Awst 9), wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer y wlad gyfan.

Mae disgwyl i’r amodau tywydd waethygu wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, gyda chawodydd yn datblygu ar ddiwedd y bore a lledu ar draws Cymru.

Y darogan yw y bydd gwyntoedd cyn gryfed â 40-50 milltir yr awr yn y gorllewin a’r de hefyd, a all gyrraedd hyd at 60 milltir yr awr mewn ardaloedd arfordirol.

Canslo digwyddiadau

Ymhlith digwyddiadau’r penwythnos sydd wedi eu gohirio yn gyfan gwbl mae Sioe Llangurig ym Mhowys.

Mae trefnwyr Sioe Gwynfe yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud na fyddan nhw’n cynnal eu cystadlaethau awyr agored – er bod yna fwriad o hyd i gynnal y cystadlaethau dan do ac adloniant y nos yn neuadd y pentref.

Fydd Carnifal Aberteifi yng Ngheredigion ddim yn mynd yn ei flaen, chwaith, gyda’r trefnwyr yn gobeithio cynnal y digwyddiad ar Fedi 7 yn lle.

“Oherwydd y rhybuddion tywydd difrifol sydd mewn lle ar gyfer y dydd Gwener a’r dydd Sadwrn, mae pwyllgor y carnifal wedi penderfynu gohirio’r ras gasgenni a’r carnifal er lles diogelwch y cyhoedd,” meddai’r trefnwyr.

Yr Eisteddfod Genedlaethol – “parhau i asesu’r sefyllfa”

Wrth i’r brifwyl yn Llanrwst gyrraedd ei deuddydd olaf, mae’r trefnwyr yn dweud eu bod nhw’n “parhau i asesu’r sefyllfa o ran y tywydd”.

“Bydd adolygiad yn ystod y dydd, a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda chydweithrediad ein partneriaid allweddol,” meddai llefarydd.