Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi cwyno nad ydy’r enw newydd ar gyfer Uned Gynllunio Ieithyddol o fewn Adran Gymraeg Llywodraeth Cymru, yn ddigon “secsi”.
Bu Cynog Dafis yn Aelod Cynulliad a Seneddol tros Geredigion, ac mae bellach yn un o geffylau blaen Dyfodol i’r Iaith.
Dyma’r mudiad sydd wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i roi fwy o bwyslais ar gynllunio ieithyddol wrth geisio creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Roedd Cynog Dafis yn croesawu’r cyhoeddiad ar Faes y Brifwyl yn gynharach yn yr wythnos, bod yr uned am gael ei sefydlu.
“Mae yna arwyddion eu bod wedi gwrando,” meddai Cynog Dafis, “ac rydym yn falch o gyfeiriad y symudiad yna.
“Mae’r syniad o gael pennaeth i’r uned yma, a bod yr uned yma yn mynd i fod yn llawer iawn mwy cyhoeddus ac amlwg … a’r holl bwyslais ar gynllunio ieithyddol cadarnhaol. Mae’r rhain i gyd yn bethau i’w croesawu.
“Beth mae’n rhaid i ni aros amdano i’w weld, yw faint mewn gwirionedd o adnoddau mae’r Llywodraeth yn gallu rhoi tu ôl i’r holl beth.
“Er enghraifft, ym maes addysg rydym ni’n barnu bod angen rhywbeth tebyg i £40m y flwyddyn ar gyfer datblygu gweithlu addysg Gymraeg. Dydyn ni ddim yn gwybod heddiw, naill ffordd neu’r llall, p’un ai fydd y fath yna o adnoddau ar gael.”
Ar ôl cyhoeddi’r camau newydd cafwyd cwestiynau lu yn y lansiad, a dywedodd Cynog Dafis bod enw’r uned, ‘Prosiect 2050’, ddim yn ddigon “secsi”.
Yn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Croesawyd sefydliad Prosiect 2050 yn eang ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ar draws Llywodraeth, gyda sefydliadau fel Dyfodol yr Iaith a phobl ar draws Cymru i wireddu ei amcanion. Y gwaith sydd i’w wneud yw’n flaenoriaeth.”
Mwy am gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer yr iaith yn y rhifyn estynedig, eisteddfodol o gylchgrawn Golwg