Mae Heddlu’r Gogledd yn gwrthod dweud pam eu bod yn dal eu gafael ar blac a gafodd ei osod i gofio dau o aelodau Mudiad Amddiffyn Cymru.
Er i’r heddlu gadarnhau bod y plac i gofio “Aberth Abergele” yn eu meddiant, nid ydyn nhw yn medru dweud pam bod y plac ganddyn nhw.
Fe gafodd y plac ei dynnu lawr gan Gyngor Conwy, cyn i’r heddlu fynd i swyddfeydd y cyngor i gasglu’r plac.
“Merthyron Abergele”
Mi gafodd y plac ei osod ar wal llyfrgell Abergele ddiwedd mis Mehefin, ar drothwy parêd i gofio “Merthyron Abergele” yn y dref.
Adeg arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru yn 1969, roedd Mudiad Amddiffyn Cymru [MAC] yn ffrwydro bomiau er mwyn dangos eu gwrthwynebiad.
Ar y noson cyn yr arwisgo yng Nghaernarfon, bu farw Alwyn Jones a George Taylor wrth i fom roedden nhw yn ei osod ffrwydro yn Abergele, ger y rheilffordd fyddai yn cludo Charles i Gaernarfon.
Roedd y ddau yn aelodau o MAC ac ers deng mlynedd mae Adam Phillips o Gorwen wedi bod yn trefnu parêd i gofio “Merthyron Abergele”.
Adam Phillips fu yn trefnu bod plac yn cael ei osod ar y wal lle bu i’r ddau farw hanner canrif ynghynt.
O fewn hanner awr i ddadorchuddio’r plac ar Fehefin 29 eleni, roedd wedi ei dynnu lawr gan un o swyddogion Cyngor Sir Conwy.
Dywedodd llefarydd y cyngor: “Fe dynnodd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy’r plac i lawr gan ei fod wedi’i osod ar adeilad heb ganiatâd.”
Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau bod swyddogion Heddlu’r Gogledd wedi bod i nôl y plac o’u swyddfeydd nhw.
Ac er i Heddlu’r Gogledd gadarnhau bod y plac ganddyn nhw, nid ydyn nhw yn fodlon egluro pam eu bod wedi ei gasglu.
Roedd golwg360 wedi gofyn a fyddan nhw yn dychwelyd y plac at Adam Phillips.
“Nid ydym mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau ychwanegol am y plac,” meddai llefarydd Heddlu’r Gogledd.
“Rhywbeth sinistr”
“Mae rhywbeth sinistr yn mynd ymlaen,” meddai Adam Phillips.
“Pam bod y plac gan yr heddlu? A pham nad ydw i’n gallu cael y plac yn ôl?
“Doedd yna ddim byd gwleidyddol ar y plac,” ychwanegodd.
“Doedd o ddim yn dweud Mudiad Amddiffyn Cymru arno fo, dim byd ond enwau’r dynion…
“Mae hyn yn dangos gymaint tydi’r wladwriaeth ddim eisiau i ni gofio pethau fel hyn.”